Deut 30 : 15 – 20 yr wyf am roi’r dewis i Ti heddiw
Luc 14 : 25 – 33 Pwy bynnag nad yw’n cario ei groes ei hun ac yn dod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl i mi.
Duw sy’n rhoi dewis yw ein Duw ni. Nid oes gorfodaeth ond mae cost wrth ddod yn aelod o deulu Duw, ac mae cost hefyd os dewisir i beidio â bod o fewn teulu arbennig hwn. Ein penderfyniad personol ni ydyw hi. Gall un ddewis ffordd Crist sy’n arwain i’r goleuni a’r bywyd tragwyddol. Rhaid i’r unigolyn wneud ei benderfyniad ei hun, ni all neb wneud penderfyniad dros rhywun arall. Mae canlyniad yr hyn a ddewiswn yn cael ei osod yn glir ger ein bron gan y Gair yn Deuteronomium.
Chwilio am bobl ufudd y mae Duw bob amser. A ydym ni yn ufudd iddo ac yn sylweddoli maint ei gariad tuag atom? Nid gwaith hawdd, nid bywyd hawdd a gynigir ganddo. Mae yna gost wrth ddod yn wir ddisgybl i Grist, ond y mae’r wobr yn fwy na dim, a bydd Crist gyda ni yn gefn , yn gymorth ac yn gynhaliaeth inni. Bydd Ef yn ein gwarchod ac yn ein cynnal ynghanol treialon bywyd ac yn rhoi nerth i ni wynebu a gorchfygu’r treialon hynny. Ildio’n llwyr i Dduw a darganfod ei ewyllys ar ein cyfer yw’r alwad.
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni,
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni,
Plyg ni, trin ni, golch ni, côd ni.
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.
Mae Duw felly yn galw am ffyddlondeb sydd yn oruwch i ffyddlondeb i unrhyw beth, neu fod dynol. Rhaid rhoi Duw yn gyntaf bob amser yn ein bywydau personol, dilyn ei orchmynion, ei garu a’n holl galon, dilyn ei lwybrau holl ddyddiau ein hoes. Peidiwn â rhoi i fyny os yw’r daith yn ymddangos yn anodd oherwydd unwaith y gwnawn y dewis gallwn fod yn sicr y bydd Duw gyda ni :
Cred yn Nuw a gwna dy waith
Gweddi : Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy
Yn Frawd a phriod i mi mwy.
Ef yn Arweinydd, Ef yn Ben,
I’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen. Amen